Ynglŷn â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Sefydlwyd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym 1998, a daeth Galw Iechyd Cymru yn rhan o’r Ymddiriedolaeth ym mis Ebrill 2007. Mae ein sefydliad dan arweiniad clinigol yn darparu gwasanaethau cludo cleifion cenedlaethol 999, 111 a gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i dair miliwn o bobl ledled Cymru, ardal o bron i 8,000 milltir sgwâr, wedi’i gwasgaru ar draws tirwedd trefol, arfordirol a gwledig amrywiol a heriol.

Rydym yn cael mwy na 500,000 o alwadau brys y flwyddyn ac yn cludo mwy na 1.3 miliwn o gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i fwy na 200 o ganolfannau triniaeth ledled Cymru a Lloegr.

Ein Pobl

 Mae ein gweithlu cyfan o tua 5,000 o bobl, y mae tua 70% ohonynt yn rhan o’n gwasanaethau meddygol brys (sy’n cynnwys ein Canolfannau Cyswllt Clinigol), a thua 640 o staff yn ein Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, yn cael eu cefnogi gan tua 500 o staff yn ein swyddogaethau corfforaethol a chymorth, a chan ein gweithlu gwirfoddol estynedig gwerthfawr sy’n cynnwys mwy na 600 o Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol a 200 o Yrwyr Ceir Gwirfoddol.

Ein Gwasanaethau

Rydym yn gweithredu o 90 o orsafoedd ambiwlans, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau. Yn ystod y pandemig, fe wnaethom hefyd wella ein darpariaeth Canolfan Cyswllt Clinigol fel rhan o fodel cyfredol o bum prif ganolfan ar gyfer ateb galwadau 999 ac 111/Galw Iechyd Cymru ledled Cymru. Mae gennym Ganolfan Addysg a Datblygu’r Gweithlu ein hunain i sicrhau bod ein pobl yn cynnal lefelau uchel o berfformiad ac yn cael datblygiad proffesiynol rheolaidd.