Ein Cyflawniadau Diweddar
Crynodeb o Gyflawniadau Diweddar (2024-25)
- Gweithio gyda’r llywodraeth, comisiynwyr a rhanddeiliaid clinigol i ddatblygu fframwaith rheoli perfformiad newydd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau clinigol nid targedau amser
- Bwrw ymlaen â’n rhaglen Trawsnewid Model Clinigol, datblygu dulliau newydd o frysbennu galwadau clinigol yn ddiogel a threialu mentrau newydd gan gynnwys y Car Ymateb i Argyfwng Iechyd Meddwl
- Parhau ar ein taith trawsnewid diwylliannol, gyda’r nod o greu gweithle lle mae ein holl bobl yn teimlo’n ddiogel, yn rhan o’r gwaith a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- Ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws gwasanaethau i wella profiad i gleifion a chynhwysiant.
