Recriwtio Prif Weithredwr
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig, weladwy, dosturiol a bywiog i’r sefydliad a’i bobl, gan sicrhau’r amodau cywir i bob unigolyn ffynnu a bod ar eu gorau ym mhopeth a wnânt yn y gweithle.
Croeso gan Colin Dennis, Cadeirydd
Annwyl ymgeisydd,
Rwy’n falch iawn eich bod yn ystyried gwneud cais am swydd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Heb os, y blynyddoedd diwethaf hyn fu’r rhai anoddaf yn hanes ein sefydliad. Er gwaethaf nifer o heriau, rydym yn parhau i arloesi ac i wneud ein gorau glas dros ein cleifion. Mae gennym lawer o bobl wych ledled Cymru sy’n gwneud llawer o bethau da; mae sicrhau bod yr arweinyddiaeth gywir a’r cymysgedd cywir o sgiliau a phrofiad ar frig y sefydliad yn bwysicach nag erioed wrth i ni barhau â’n taith tuag at gyflawni ein gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol.
Fel gwasanaethau ambiwlans eraill a sefydliadau’r GIG ledled gwledydd Prydain, rydym yn wynebu pwysau cynyddol a rhaid i ni barhau â’n taith o drawsnewid er mwyn sicrhau a chynnal gwasanaethau sy’n gallu diwallu gofynion sy’n tyfu ac yn esblygu’n barhaus. Er ein bod yn wynebu’r un pwysau ariannol, ein nod parhaus yw darparu gofal a gwasanaethau diogel ac o ansawdd uchel i’r cyhoedd. Bydd angen i ni sicrhau bod ein ffocws ar ganlyniadau clinigol a diogelwch yn parhau i fod yn ganolog a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon posib.
Mae rôl hanfodol diwylliant i lwyddiant yr Ymddiriedolaeth yn dod yn fwyfwy amlwg, ac mae’n effeithio ar bopeth o enw da a brand i ymgysylltiad gweithwyr ac, yn y pen draw, y profiad i gleifion. Rydym wedi gweithio’n galed i wella ein diwylliant sefydliadol, i roi’r hyder i gydweithwyr godi’u llais a’n herio pan fyddant yn gwybod nad yw rhywbeth yn iawn, i rannu eu syniadau a herio ein ffordd o feddwl, i sicrhau amgylchedd lle rydym yn ddiogel i ddod â ni ein hunain yn gyfan i’r gwaith, a bod menywod a’r rhai mewn grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel. Rydym am ailddiffinio beth yw ystyr bod yn wasanaeth ambiwlans ac, er bod ffordd bell i fynd o hyd, credwn ein bod yn arwain y ffordd, fel sydd i’w weld gan ein henw da cenedlaethol a rhyngwladol cynyddol fel gwasanaeth ambiwlans sydd ar flaen y gad o ran newid er gwell.
Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac ymroddedig ac yn chwilio am arweinydd sy’n ymgorffori’r dyheadau hynny; rhywun sydd wedi ymrwymo i gleifion a’n pobl, sydd â phenderfyniad a phwrpas, ond sydd hefyd yn cysylltu â phobl ar lefel ddynol iawn. Mae angen rhywun arnom sy’n gallu cyflwyno dadleuon grymus i’r llywodraeth a rhanddeiliaid dylanwadol, gan gadw hyder ein staff a’n cleifion; rhywun sy’n gwrando ac yn deall pwysigrwydd hanfodol ein gwasanaeth i bobl Cymru, sy’n dibynnu arnom pan fyddant ar eu mwyaf agored i niwed, a rhywun sydd â’r gostyngeiddrwydd i dderbyn her ac ymateb yn gadarnhaol. Rhaid i’n Prif Weithredwr nesaf fod yn rhywun sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’n hundebau llafur, comisiynwyr, llywodraeth, tîm arweinyddiaeth a phobl Cymru i barhau i siapio a darparu gwasanaethau a fydd yn diwallu anghenion cleifion nawr, ac am flynyddoedd i ddod.
Heb os, bydd hon yn swydd gyffrous, heriol a gwerth chweil, a byddwch yn ymuno â thîm arweinyddiaeth gweithredol a Bwrdd cryf ac ymroddedig, sydd wedi ymrwymo i gyflawni ein gweledigaeth a’ch cefnogi i lwyddo. Mae hwn yn gyfle unigryw, ac os ydych chi’n rhannu yr un cyffro â mi am yr hyn y gallwn ni ei gyflawni a’ch bod yn awyddus i ymuno â mi a fy nghydweithwyr ar y Bwrdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth wireddu pethau, yna rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais.